Mwy o ymwelwyr nag erioed i safleoedd treftadaeth Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae safleoedd treftadaeth Cymru wedi cael eu tymor mwyaf llwyddiannus erioed, gyda dros 600,000 o ymwelwyr yn heidio i ymweld â safleoedd Cadw.
Mae'r ffigurau, gafodd eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ddydd Gwener yn dangos bod 135,000 o deuluoedd wedi ymweld â safleoedd Cadw rhwng mis Gorffennaf a mis Medi - i fyny o 110,885 yn 2015.
Dywedodd yr ymddiriedolaeth bod y ffigyrau'n "ganlyniad uniongyrchol" i daith draig o gwmpas ei safleoedd hanesyddol.
Bu draig Cadw yn treulio'r haf yn ymweld â chestyll ledled Cymru, gan arwain at y cynnydd o 22% yn nifer yr ymwelwyr teuluol.
Llwyddodd i ddenu 121,000 o ymwelwyr i'r safleoedd ar ei thaith, gyda Chestyll Y Fflint, Caerffili, Cas-gwent, Biwmares, Rhuddlan, Cydweli, Caernarfon a Harlech yn gweld cynnydd o 86% yn nifer eu hymwelwyr.
'Arwyddocâd arbennig'
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Threftadaeth, Ken Skates wedi croesawu'r ffigyrau, gan ddweud bod "syniadau arloesol" wedi "tanio diddordeb newydd yn ein treftadaeth".
"Rydyn ni wedi gweld cyflawniadau mawr ar safleoedd Cadw ledled Cymru yn ystod y chwarter hwn," meddai.
"Cafwyd y ffigurau uchaf erioed yn hanes Cadw o ran nifer yr ymwelwyr a groesawyd i'w gestyll, abatai a henebion eraill rhwng mis Gorffennaf a mis Medi.
"Mae'r ffigurau hyn yn dangos eto bod gwerth ac arwyddocâd arbennig mewn atyniadau treftadaeth a bod lle pwysig iddyn nhw yn yr hyn sydd gan Gymru i'w gynnig i ymwelwyr."