Addysg leol i 'elwa' o arbenigedd coleg
- Cyhoeddwyd
Golwg ar gampws National Star
Fe ddylai'r ddarpariaeth addysg leol i oedolion ifanc sydd ag anableddau fanteisio ar agoriad coleg arbenigol newydd, yn ôl elusen.
Mae Coleg National Star wedi agor campws ym Mamheilad, ger Pont-y-pŵl ers rhai wythnosau.
Yn ôl SNAP Cymru, mae 'na gyfle nawr i wella'r ddarpariaeth leol ym mhob rhan o Gymru drwy rannu arbenigedd y coleg.
Mae'r elusen yn dweud y gallai hynny olygu nad ydi pobl ifanc yn gorfod symud o'u cymunedau er mwyn cael eu haddysg.
Mae campws National Star yn darparu cyfuniad o addysg sgiliau bywyd, therapi lleferedd a ffisiotherapi i bobl sy'n hŷn nac 19 oed.
'Adnodd i'r gymuned'
Dywedodd Lindsay Brewis o SNAP Cymru bod angen defnyddio arbenigedd National Star, sydd â nifer o ganolfannau yn ne-orllewin Lloegr, fel "adnodd i'r gymuned".
"'Dyn ni angen i bob un coleg addysg bellach ddysgu gan ganolfannau rhagorol fel National Star, a defnyddio rhai o'u dulliau a'u technegau", meddai.
"Efallai mai un y cant o bobl ifanc fydd angen coleg arbenigol iawn, ond fe allai'r 19% arall elwa os 'dyn ni'n ei ddefnyddio fel adnodd.

"[Mae angen] cymryd eu syniadau a'u gweithredu yn lleol, fel mai'r coleg lleol yw'r coleg gorau i'r mwyafrif llethol o bobl ifanc sydd ag anghenion ychwanegol ac anableddau."
Ychwanegodd bod hynny'n allweddol i bobl ifanc ag anableddau.
"Pan fo'r pobl ifanc yma'r colli'r cysylltiad gyda'u cymunedau, mi 'dyn ni'n gwneud tro gwael iawn â nhw," meddai.
'Newid fy mywyd'
Un person ifanc a adawodd Cymru yn 16 oed i fynd i gampws National Star yn Cheltenham yw Morgan Jones o ardal Corwen.
Bellach, mae o'n ôl yn ei filltir sgwâr, yn byw yn Rhuthun ac yn gweithio'n adran technoleg gwybodaeth Cyngor Sir Ddinbych yn y dref.
Mae Morgan yn dweud bod yr hyn ddysgodd o yn y coleg wedi "newid ei fywyd" a'i helpu i gael swydd - yn ogystal â byw yn annibynnol.

Cafodd cyfnod Morgan Jones yn Cheltenham ei gofnodi yn rhaglen 'The Unbreakables
"Dwi wastad wedi bod isio fy mam a dad i fod yn rhieni i fi, dim carers", meddai.
"So do'n i ddim eisiau symud adre [ar ôl gadael National Star]."
Er hynny, mae'n mae'n dweud y byddai wedi hoffi cael ei addysg yn nes at adref.
"Mae 'na demand yng Nghymru i gael lle fel National Star," meddai. "Yn sicr, fyswn i wedi licio aros yng Nghymru".