Ymchwilio i dwyll ariannol mewn coleg chweched dosbarth
- Cyhoeddwyd

Safle Cardiff Sixth Form College ar Heol Casnewydd yng Nghaerdydd
Mae'r heddlu'n ymchwilio i dwyll honedig mewn coleg chweched dosbarth yng Nghaerdydd.
Daw ymchwiliad Heddlu De Cymru i Cardiff Sixth Form College ar Heol Casnewydd wedi iddyn nhw dderbyn gwybodaeth am anghysondebau ariannol honedig.
Mae'r Comisiwn Elusennau hefyd wedi lansio ymchwiliad i waith y coleg, sydd yn cael ei ystyried yn elusen am ei fod yn goleg annibynnol.
Methiant y coleg i gyhoeddi eu cyfrifon arweiniodd at yr ymchwiliad hwnnw, ddechreuodd ym mis Mehefin.
'Pryderon'
Yn ôl y comisiwn, maen nhw wedi dod o hyd i "bryderon" am lywodraethiant a rheolaeth ariannol y coleg, a throsglwyddiadau rhwng yr elusen a rhai o'i chyn-ymddiriedolwyr.
Dywedodd y rheoleiddiwr hefyd ei bod hi'n ymddangos bod y coleg wedi methu rheoli neu ddod o hyd i wrthdaro buddiannau a bod "trosglwyddiadau arwyddocaol o werth mawr" nad oedd wedi cael eu hawdurdodi'n gywir.
Mae'r comisiwn eisoes wedi penodi rheolwr dros dro i ofalu am y coleg, a hynny i gymryd lle'r ymddiriedolwyr presennol ac er mwyn goruchwylio'r broses o werthu'r coleg i grŵp Dukes Education.
Mewn datganiad, mae'r comisiwn yn pwysleisio nad yw'r ffaith bod ymchwiliad yn cael ei gynnal yn brawf o ddrwgweithredu.
Dywedodd prifathro'r coleg, Gareth Collier, bod gwersi'n cael eu cynnal "yn ôl yr arfer" yn y coleg, ac ychwanegodd bod "dim o'i le ar weithgareddau'r coleg pan mae'n dod i addysg a gofal bugeiliol".
Mae'r ymchwiliad heddlu dan ofal Uned Troseddau Economaidd Heddlu'r De, ac mae'r Comisiwn Elusennau'n dweud eu bod mewn cyswllt â'r llu.