Achos Goruchaf Lys: Cymru 'ddim yn ceisio atal' Brexit
- Cyhoeddwyd

Richard Gordon QC sy'n cyflwyno'r achos dros Lywodraeth Cymru yn y Goruchaf Lys
Nid yw Llywodraeth Cymru yn ceisio atal Brexit rhag digwydd, yn ôl cyfreithiwr yn y Goruchaf Lys.
Roedd Richard Gordon QC yn siarad dros weinidogion Cymru wrth i Lywodraeth y DU apelio yn erbyn dyfarniad yr Uchel Lys bod angen cefnogaeth ASau i ddechrau'r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd Mr Gordon bod y "materion cyfansoddiadol yn y fantol yn mynd llawer ymhellach na Brexit".
Mae gweinidogion Cymru yn credu y byddai buddugoliaeth i Lywodraeth y DU yn newid "sylweddol" i sylfaen datganoli.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod rhaid i Lywodraeth y DU "weithredu o fewn y gyfraith".
'Difetha hawliau dynol'
Cafodd achos Llywodraeth Cymru ei glywed yn y Goruchaf Lys gydag achosion eraill, gan gynnwys gan Lywodraeth yr Alban.
Daw wedi i ASau bleidleisio ddydd Mercher i gefnogi cynllun y llywodraeth i ddechrau trafodaethau ffurfiol ar Brexit erbyn diwedd Mawrth 2017.

Wrth gyflwyno achos Llywodraeth Cymru, dywedodd Mr Gordon nad oedd unrhyw ddadlau gyda chanlyniad y bleidlais, dim ond y camau nesaf, a phwy sy'n penderfynu beth sy'n digwydd nesaf.
Dywedodd bod y gyfraith yn dangos yn glir bod y Senedd yn "gorfod" penderfynu.
Honnodd Mr Gordon y gallai "plentyn chwech oed" weld y diffygion yn nadl Llywodraeth y DU, ac er bod modd i'r llywodraeth wneud a dadwneud cytundebau, nid oedd yn gallu "cael gwared â deddfau sy'n cael eu pasio gan y Senedd".
Ychwanegodd y byddai gadael yr UE heb ymgynghori ag ASau yn "difetha hawliau dynol".
Yn ôl cwnsel cyffredinol Llywodraeth Cymru Mick Antoniw mae "egwyddor gyfansoddiadol" yn y fantol.
Ychwanegodd bod yn rhaid i Lywodraeth y DU hwyluso confensiwn fyddai'n golygu na fyddai gweinidogion San Steffan yn deddfu ar faterion datganoledig heb gydsyniad deddfwriaeth ddatganoledig.
Mae Llywodraeth y DU yn gwrthod y farn hon, gan ddweud nad yw'r materion ychwanegol a godwyd "yn darparu unrhyw sail gredadwy" dros lynu at benderfyniad gwreiddiol yr Uchel Lys.
'Dwyn pwerau'

Ar raglen y Post Cyntaf ar Radio Cymru fore Iau dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas na fydd y DU yn rhuthro allan o'r Undeb Ewropeaidd.
"Dydi o ddim yn bosib," meddai, gan ddweud nad oes sail gyfreithiol i wneud hynny.
Ychwanegodd ei fod yn pryderu y bydd Llywodraeth y DU yn dwyn pwerau oddi wrth bobl Cymru pan fydd Erthygl 50 yn cael ei danio.