Medal aur i Jade Jones
- Cyhoeddwyd

Parhau mae blwyddyn lwyddiannus y bencampwraig Taekwando o Lannau Dyfrdwy Jade Jones.
I ychwanegu at ei hail fedal aur Olympaidd, mae'r ymladdwr o'r Fflint newydd ennill rownd derfynol Grand Prix y Byd yn Baku, Azerbaijan yn y pwysau -57Kg.
Fe wnaeth Jones guro Hedaya Malak o'r Aifft 7-0 yn y ffeinal.