Lluniau: Goreuon 2016
- Cyhoeddwyd
Detholiad o luniau o adran Cylchgrawn Cymru Fyw dros y flwyddyn.

O leia' mae gan y tarw yma got drwchus i'w gadw'n gynnes yn yr eira
Dyma lun trawiadol o oriel gaeaf yn y gogledd gan Geraint Thomas

Eira yn Tai Bach, Llansannan fis Mawrth
Disgynnodd eira dros rannau o Gymru ddechrau mis Mawrth, dyma oriel o luniau a fu ar Cylchgrawn.

"Dyfod pan ddêl y gwcw…." Clychau'r gog yng ngolau'r hwyr ar y Wenallt, Caerdydd

Un o gefnogwyr ieuenga' Cymru? Osian ar ei ffordd i Ffrainc efo Dad a Mam, Rhodri ac Anwen
Roedd Mehefin yn fis mawr i gefnogwyr tîm pêl-droed Cymru. Teithiodd miloedd o Gymru i Ffrainc ar gyfer pencampwriaeth Euro 2016. Mae nifer ohonyn nhw i'w gweld yn oriel luniau Bon Voyage Cymru Fyw.

Y garfan ar ben y bws
Ac wedi'r bencampwriaeth, roedd rhaid llongyfarch y bechgyn wrth iddyn nhw gyrraedd yn ôl i'r brifddinas. Bu'r ffotograffwyr Sioned a Nia'n gwylio'r cyfan ar ran Cymru Fyw.

Y Syr Wynff a Plwmsan newydd (Llŷr Evans ac Iwan Charles) ar faes yr Urdd
Yn Eisteddfod yr Urdd Sir y Fflint, cafodd plant Cymru gyfarfod â'r Syr Wynff a Plwmsan newydd cyn iddyn nhw fynd ar daith gyda'r sioe Raslas Bach a Mawr o gwmpas Cymru.

Pwy sy' tu ôl i'r wynebau lliwgar yma?
Roedd Gorffennaf yn fis prysur o ran gwyliau cerddorol ar draws Cymru. Yng Ngŵyl Nôl a Mla'n yn Llangrannog, bu'r ffotograffydd Lleucu Meinir yn tynnu lluniau i Cymru Fyw.

Bu trigolion y brifddinas yn joio gŵyl Gymraeg Tafwyl yng Nghastell Caerdydd.

Machlud yn Nant Gwrtheyrn
Daw'r llun yma o oriel o luniau trawiadol Eryri yn yr haf gan y ffotograffydd Dafydd Em, fis Awst.

Hunlun Guto Dafydd, enillydd Gwobr Daniel Owen, gyda'r beirniaid Fflur Dafydd, Jon Gower a'r diweddar Gareth F Williams
Un o brif ddigwyddiadau'r calendr Cymreig ym mis Awst ydy'r Eisteddfod Genedlaethol, a gynhaliwyd yn Y Fenni eleni, mae detholiad o luniau'r wythnos yma.

Gofal pia' hi
Llun gan Sian Bowi yn oriel y gwenyn, fis Medi.

Ho ho ho. Pwy yw hwn 'da Maisie 'te?
Daeth Siôn Corn - a llawer o ymwelwyr eraill - i'r Ffair Aeaf yn Llanelwedd ddiwedd mis Tachwedd. Mae oriel luniau o'r ddeuddydd i'w gweld yma.