Rhybudd rhew gan y Swyddfa Dywydd
- Cyhoeddwyd

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd tywydd melyn am iâ dros rannau helaeth o Ogledd Ddwyrain, Canolbarth a De Cymru.
Mae'r rhybudd yn dod i rym am 02.00 ac yn dod i ben am 10.00.
Mae arbenigwyr yn rhybuddio y gall palmentydd a ffyrdd bychain na sydd wedi eu graeanu fod yn hynod o lithrig.
Mae'n bosib y bydd hi hefyd yn niwlog mewn mannau.
Yn y Gogledd disgwylir y bydd hi'n rhewi mewn rhannau o siroedd Dinbych a Wrecsam.
Yn y De gellir disgwyl iâ ar ffyrdd siroedd Rhondda Cynon Taf, Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Torfaen, Penybont-ar-Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg. Mae 'na hefyd rybudd melyn ar gyfer rhannau o Bowys.