Hull 2-0 Abertawe
- Cyhoeddwyd

Hon oedd gêm gyntaf Abertawe gyda Paul Clement (dde) wrth y llyw
Fe wnaeth Abel Hernandez, sydd heb chwarae ers mis Tachwedd oherwydd anaf, ddychwelyd i sicrhau buddugoliaeth i Hull yn erbyn Abertawe yng Nghwpan yr FA.
Sgoriodd Hernandez 15 munud ar ôl dod ar y cae fel eilydd yn y frwydr rhwng y ddau dîm ar waelod yr Uwch Gynghrair.
Josh Tymon sgoriodd ail gôl Hull yn eu gêm gyntaf dan arweinyddiaeth y rheolwr newydd Marco Silva.
Hon hefyd oedd gêm gyntaf Paul Clement wrth yr awenau i Abertawe ac roedd y golled yn brawf o'r gwaith cael sy'n ei wynebu.