Stevenage 3-1 Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
Matt GoddenFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Hon oedd gôl rhif 11 i Matt Godden y tymor yma

Fe wnaeth Matt Godden sgorio hatric wrth i Stevenage guro Casnewydd, hon oedd yr wythfed gêm yn olynol i'r Alltudion golli yn yr Ail Adran.

Aeth y tîm cartref ar y blaen wrth i Godden ergydio yn dilyn croesiad Steve Schumacher, a daeth ail gôl Godden ychydig cyn yr egwyl.

Yn yr ail hanner, sgoriodd Godden o'r smotyn ar ôl i Ben Kennedy droseddu yn erbyn Sid Nelson.

Dan Butler sgoriodd gôl gysur Casnewydd.

Golygai'r canlyniad fod Casnewydd yn parhau ar waelod yr Ail Adran, pedwar pwynt y tu ôl i Cheltenham.