Glasgow 29-15 Gleision
- Cyhoeddwyd

Peter Murchie yn sgorio cais i Glasgow
Fe wnaeth Glasgow guro'r Gleision, gyda'r fuddugoliaeth yn golygu eu bod yn codi uwchben y Scarlets yn y Pro12.
Roedd y fuddugoliaeth yn cynnwys pwynt bonws i'r tîm cartref.
Daeth y sgôr agoriadol wrth i'r bachwr Pat MacArthur groesi'r llinell.
Ond yn erbyn rhediad y chwarae fe darodd y Gleision yn ôl cyn yr egwyl gyda Blaine Scully yn manteisio a'r gic gwallus gan amddiffyn Glasgow.
Ar ôl yr egwyl fe wnaeth cefnwr y tîm cartref Peter Murchie groesi ddwywaith yn dilyn pwysau wrth ymyl y llinell.
James Malcom sicrhaodd y pwynt bonws, cyn i Rhun Williams sgorio yn hwyr i'r Gleision.