Anafiadau difrifol wedi gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae person wedi ei gludo i'r ysbyty yng Nghaer gydag anafiadau difrifol ar ôl cael ei daro gan fan yn Sir y Fflint nos Sadwrn.
Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am dystion wedi'r gwrthdrawiad ar yr A5104.
Digwyddodd y gwrthdrawiad gyda fan Frod Transit ar gyffordd rhwng Brychdyn a Queensway tua 21:40.
Bu'r ffordd wedi cau am bedair awr wedi'r digwyddiad.