Rhybuddion eira mewn grym ar gyfer 10 ardal
- Cyhoeddwyd

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd am eira yn y gogledd a'r gorllewin ddydd Iau, gyda'r cawodydd yn debygol o fod yn drymach ar dir uchel.
Mae rhybuddion melyn mewn grym mewn 10 ardal yng Nghymru: Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn, Sir Benfro, Powys a Wrecsam.
Ar dir isel, mae'n bosib y bydd 2cm o eira yn disgyn, ond fe allai hefyd fod yn eirlaw a chesair yn yr ardaloedd hyn.
Fe allai hyd at 5 i 10cm ddisgyn ar dir uchel.

Mae rhybudd arall mewn grym ar gyfer mwy o gawodydd gaeafol ddydd Gwener
Mae rhwng 20% a 30% o bosibilrwydd o storm eira mewn rhai ardaloedd yng Nghymru hefyd, yn ôl arbenigwyr tywydd.
Gallai'r tywydd oer achosi trafferthion i deithwyr wrth i ffyrdd a phalmentydd rewi.
Ddydd Gwener, mae rhybudd arall mewn grym am fwy o gawodydd gaeafol.
Am y wybodaeth ddiweddaraf, ewch i wefan y Swyddfa Dywydd, dolen allanol.