Corff Afon Gwy yw athro oedd ar goll o Sir Fynwy
- Cyhoeddwyd

Cafodd Liam Stubbs ei weld ddiwethaf yn siop WH Smith yn Nhrefynwy
Mae Heddlu Gwent wedi cadarnhau mai corff dyn oedd ar goll o Sir Fynwy gafodd ei ddarganfod yn Afon Gwy dros y penwythnos.
Cafodd corff Liam Stubbs, 46 oed, ei ddarganfod yng Nghas-gwent tua 10:40 ddydd Sadwrn.
Roedd Mr Stubbs yn gweithio fel athro cynorthwyol yn Ysgol Gyfun Trefynwy.
Mae'r heddlu wedi cadarnhau nad ydyn nhw'n trin y farwolaeth fel un amheus.
Doedd Mr Stubbs ddim wedi cael ei weld ers 13:00 ar ddydd Gwener, 19 Tachwedd.