Canfod corff yn Afon Llwchwr wrth chwilio am ddyn ar goll
- Cyhoeddwyd

Mae corff wedi cael ei ddarganfod mewn afon ar ôl i dimau achub fod yn chwilio am ddyn sydd ar goll o Abertawe.
Cafodd y corff ei ganfod yn Afon Llwchwr, rhwng Garnswllt a Pontarddulais, am tua 13:10 ddydd Iau.
Dywedodd Heddlu Dyfed Powys bod teulu Gary Dunn, 38 oed, wedi cael eu hysbysu am y darganfyddiad, ynghyd â'r crwner.
Cafodd Mr Dunn ei weld ddiwethaf yn Rhydaman, Sir Gaerfyrddin, ar 12 Rhagfyr.