Davies yn rhybuddio ynglŷn ag iaith ACau wrth drafod Brexit
- Cyhoeddwyd

Mae arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru wedi rhybuddio bod yr iaith "ymosodol" gan rai ACau wrth drafod Brexit yn cynyddu tensiynau sydd yn bodoli ymhlith y cyhoedd ynglŷn â'r mater.
Mae Andrew RT Davies wedi ysgrifennu at Lywydd y Cynulliad, Elin Jones yn gofyn iddi atgoffa gwleidyddion i ddefnyddio iaith fwy addas.
Yn ôl Mr Davies roedd rhai brawddegau gafodd eu defnyddio mewn dadl yn y Senedd ar 7 Chwefror yn "cynhyrfu'r dyfroedd".
Mae'n cwyno bod Dawn Bowden wedi dweud bod y wasg asgell dde yn defnyddio "propaganda tebyg i Goebbels" a bod Eluned Morgan yn gwneud i hunan laddiad swnio fel rhywbeth "pitw" trwy ei ddefnyddio mewn cymhariaeth wrth drafod yr hyn allai ddigwydd i economi Cymru oherwydd Brexit.

Mae Andrew RT Davies yn dweud bod angen cynnal trafodaeth resymegol ynglŷn â Brexit
Yn y llythyr mae'n dweud: "Mae 'na beryg bod natur ymosodol ein dadleuon ar y pwnc o Brydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yn debygol o waethygu unrhyw densiynau sydd yn bodoli yng nghymdeithas Cymru.
"Beth bynnag ydyn ni yn meddwl fel unigolion ac ar y cyd ynglŷn â'r canlyniad, mae gennym ni gyd gyfrifoldeb i gynnal y drafodaeth mewn ffordd resymegol a chyda pharch."
Dywedodd llefarydd ar ran y Cynulliad: "Fe gafodd y Llywydd y llythyr brynhawn ddydd Gwener ac fe fydd yn ymateb i arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru yn fuan."
Mae BBC Cymru wedi gofyn i Ms Bowden a Ms Morgan am sylw.