Pypedau dychan yn gwerthu mewn arwerthiant yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae pypedau o gyn-arweinydd y Blaid Lafur, Neil Kinnock a'i wraig Glenys, oedd yn cael eu defnyddio ar gyfer y gyfres Spitting Image wedi gwerthu am £3,400 mewn arwerthiant.
Roedd y cyn AS dros etholaeth Islwyn yn arweinydd y Blaid Lafur rhwng 1983 ac 1992, ac roedd y pypedau yn cael eu defnyddio'n aml ar y gyfres ITV am gyfnod o 12 mlynedd, tan 1996.
Roedd y gyfres yn dynwared ffigurau gwleidyddol ac adnabyddus, gan gynnwys enwogion eraill ac aelodau o'r Teulu Brenhinol.
Arwerthwyr Rogers Jones oedd yn gwerthu'r pypedau mewn ocsiwn yng Nghaerdydd.
Roedd amcan bris o £3,000 arnynt.