Brexit: 'Ni ddylai Tŷ'r Arglwyddi oedi'

  • Cyhoeddwyd
Syr Robert Rogers
Disgrifiad o’r llun,

Mae Syr Robert Rogers yn cael ei adnabod yn Nhŷ'r Arglwyddi fel Yr Arglwydd Llysfaen

Ni ddylai Tŷ'r Arglwyddi oedi neu newid y Mesur Brexit, yn ôl cyn uwch-swyddog Seneddol.

Fe bleidleisiodd ASau'r wythnos ddiwethaf, o fwyafrif o bedwar i un, i roi'r pŵer i'r Prif Weinidog i danio Erthygl 50 gan ddechrau'r broses o adael yr UE.

Mae disgwyl i'r Arglwyddi drafod y mesur ddydd Llun.

Ond dywedodd un aelod o Dŷ'r Arglwyddi, Yr Arglwydd Llysfaen wrth raglen y Sunday Supplement ar BBC Radio Wales y byddai'n "hynod o annoeth" i fynd yn erbyn ewyllys Aelodau Seneddol.

Dywedodd: "Os bydd y tŷ etholedig wedi penderfynu peidio â diwygio'r mesur, yna ni ddylai'r tŷ sydd heb eu hethol wneud hynny."

Dywedodd Yr Arglwydd Llysfaen, sy'n hanu o Gaerdydd, fod y ddadl ar fesur Brexit yn Nhŷ'r Cyffredin wedi cyflawni'r hyn y dylai fod wedi gwneud, drwy amlygu materion sy'n codi yn y mesur gyda gweinidogion sy'n gorfod amddiffyn eu sefyllfa.

Fodd bynnag, dywedodd yr Arglwydd Llysfaen y gallai Arglwyddi gymryd y cyfle i ofyn i ASau i "feddwl eto" ar y sefyllfa ynglŷn â phobl o'r UE sy'n byw yn y DU.

Mae disgwyl i ddwsinau o aelodau Tŷ'r Arglwyddi siarad o blaid ac yn erbyn cynlluniau Llywodraeth y DU yn y ddadl.

Mae'r Prif Weinidog, Theresa May yn awyddus i ddechrau trafodaethau Brexit yn ffurfiol gyda'r UE erbyn diwedd mis Mawrth.

Mae modd gwrando i'r cyfweliad llawn ar raglen Sunday Supplement ar wefan iPlayer y BBC.