Canfod corff ar draeth Maenorbŷr yn Ninbych y Pysgod.
- Cyhoeddwyd

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw toc ar ol 07:30 fore Sadwrn i draeth Maenorbŷr yn Ninbych y Pysgod
Mae Heddlu Dyfed Powys yn ymchwilio ar ôl iddyn nhw ddod o hyd i gorff dyn ar draeth yn Sir Benfro.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw toc ar ôl 07:30 fore Sadwrn i draeth Maenorbŷr yn Ninbych y Pysgod.
Dyw'r heddlu ddim yn gwybod eto sut yn union y bu'r dyn farw.
Mae'r crwner wedi cael gwybod.