Datblygu presenoldeb papur bro Llanw Llŷn ar y wê
- Cyhoeddwyd

Mae papur Llanw Llŷn yn parhau i werthu hyd at 2,000 o gopïau pob mis
Ers dathlu pen-blwydd arbennig yn 40 ym mis Tachwedd, mae un o bapurau bro fwyaf poblogaidd Cymru yn edrych i ddatblygu presennoldeb y papur ar-lein.
Mae papur Llanw Llŷn yn parhau i werthu hyd at 2,000 o gopïau pob mis, ac ymysg yr uchaf o ran cylchrediad ymhlith papurau bro Cymru.
Criw bach o wirfoddolwyr sy'n gyfrifol am gasglu deunydd newyddion a hysbysebion o wahanol bentrefi ym Mhen-Llŷn ar gyfer y papur.
Gyda'r oes yn newid, a ffyrdd gwahanol o ddarllen newyddion ar y wê a drwy wefannau cymdeithasol, mae pwyllgor y Llanw eisiau penodi "person ifanc" er mwyn datblygu ochr ddigidol y papur.
Dywedodd Cadeirydd Llanw Llŷn, Michael Strain: "Mae'r Llanw dal i fynd o nerth i nerth.
"Mae'n gynnyrch sy'n dod o bob pentref yn Llŷn. Mae 'na gyfle rŵan i ni ystyried y dyfodol, a pha gyfleoedd sydd na i ddatblygu ac ehangu'r cynnyrch misol."
Datblygu yn y dyfodol
Bwriad y papur yw penodi rhywun am 30 awr y mis i ddatblygu'r papur ar lein, gan fod yn gyfrifol am yr hysbysebion a'r ochr ddigidol.
Dywedodd trefnydd hysbysebion Llanw Llŷn, Berno Brosschot: "Y gobaith ydi i gael rhywun ifanc i yrru'r drafodaeth am sut mae'r papur yn medru datblygu yn y dyfodol.
"Rydym yn cael yr argraff bod 'na lai o bobl ifanc yn darllen y Llanw am eu bod nhw'n cael y newyddion rhywle arall. Mae'n bwysig i'r Llanw gadw ei rôl fel canolbwynt yr ardal."