Gall agweddau gwleidyddol 'erydu hawliau dynol'
- Cyhoeddwyd

Fe all agweddau gwleidyddol presennol arwain at "erydiad araf" mewn hawliau dynol, yn ôl un arbenigwr ar hawliau dynol, lloches a mewnfudo.
Daw sylwadau'r fargyfreithwraig Mona Bayoumi wrth i Bwyllgor Cydraddoldeb y Cynulliad gynnal ymchwiliad i hawliau dynol yng Nghymru.
Dywed y pwyllgor fod eu hymchwiliad yn hanfodol wrth baratoi'r Cynulliad ar gyfer unrhyw newidiadau yn y dyfodol.
Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder fod llywodraeth y DU yn parhau "wedi ei hymrwymo" i adolygu fframwaith hawliau dynol ym Mhrydain.
Hawliau
Wrth siarad ar raglen Sunday Politics Wales, dywedodd Ms Bayoumi: "Er mwyn ei roi mewn cyd-destun, roedd 'na'n amlwg ddeddfwriaeth Brydeinig oedd yn bodoli ers y 70au oedd yn amddiffyn hawliau gweithwyr yn erbyn gwahaniaethu, felly mae'n bwysig i gofio hynny.
"Ond rwy'n credu y bydd na erydiad araf o hawliau presennol sydd yn cydfynd gyda'r ddadl yr ydym wedi ei chlywed."
Wrth i Brydain baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd a llywodraeth y DU yn argymell disodli'r Ddeddf Hawliau Dynol 1998, allai docio ar waith Llys Iawnderau Dynol Ewrop, mae Pwyllgor Cydraddoldeb y Cynulliad yn edrych ar sut y gallai hyn effeithio ar Gymru.

Llys Iawnderau Dynol Ewrop yn Strasbourg
Rhaid i holl ddeddfau'r Cynulliad gydfynd gyda deddfwriaeth hawliau dynol, ac fe allai termau'r ddeddfwriaeth yma newid os bydd Theresa May'n bwrw 'mlaen gyda'r bwriad o ddisodli Cytundeb Ewrop ar Hawliau Dynol.
Mae cadeirydd y pwyllgor ac aelod y Cynulliad dros Ddwyrain Casnewydd, John Griffiths yn dweud fod "llawer o bryder fod y trefniadau cynhwysol yr ydym wedi eu hadeiladu yng Nghymru dan fygythiad ar hyn o bryd o achos digwyddiadau ar draws y byd ac o fewn y DU", ac "mae'n rhaid amddiffyn yn erbyn hyn".
Newidiadau
Un arall sydd yn poeni am effaith unrhyw newidiadau posib i ddeddfwriaeth hawliau dynol ydi Mabli Jones o fudiad Stonewall.
Mae hi'n poeni y gallai newidiadau ddadwneud y cynnydd mewn hawliau pobl LGBT.
"Ers cyflwyno'r Ddeddf Hawliau Dynol mae nifer o benderfyniadau yn llysoedd y DU a'r UE sydd wedi cynyddu amddiffyniadau cyfreithiol i bobl LGBT.
Mabli Jones o fudiad Stonewall
"Ein pryder yw, heb yr amddiffyniadau hyn, fe allem weld y cynnydd yn mynd yn ôl degawdau."
Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder: "Mae llywodraeth y DU yn parhau wedi ei hymrwymo i adolygu fframwaith hawliau dynol ym Mhrydain.
"Byddwn yn ystyried ymhellach Bil Hawliau unwaith y byddwn yn gwybod beth fydd trefniadau gadael yr UE gan ymgynghori'n llawn gan fod yn ymwybodol o'r tirlun cyfansoddiadol newydd y bydd hyn yn ei greu."