Caeredin 17-18 Gleision
- Cyhoeddwyd

Rory Scholes yn sgorio dau gais i Gaeredin ond y Gleision yn fuddugol o drwch blewyn
Fe wnaeth y Gleision wyrthiau yn eu gêm nos Wener. Roedd hi'n arllwys y glaw a'r gwynt yn eu herbyn a Chaeredin ar y blaen un pwynt ar ddeg wrth wynebu'r ail hanner.
Ond gyda phenderfyniad, disgyblaeth a gweledigaeth Lloyd Williams ynghyd â rhedeg hyfryd fe groesodd y Gleision y gwyngalch ddwy waith yn yr ail hanner trwy Bennet a Lloyd Williams.
Roedd rhaid amddiffyn yn gadarn wedyn wrth i Gaeredin newid gêr i geisio cipio'r fuddugoliaeth.
Ond ar ddiwedd y pedwar ugain munud y Gleision aeth â hi o drwch blewyn.