Caerdydd 2-2 Fulham
- Cyhoeddwyd

Gêm ymosodol llawn cyffro oedd hi rhwng Caerdydd a Fulham ond bu'n rhaid i'r Adar Gleision setlo am sgôr cyfartal.
Stefan Johansen gafodd y gôl gyntaf i'r ymwelwyr ond fe wnaeth gôl Kenneth Zohore unioni pethau cyn diwedd yr hanner cyntaf.
Rhoddodd hanner foli Zohore Caerdydd yn ôl ar y blaen ond tarodd Fulham yn ôl. Daeth y gôl gan Neeskens Degano.
Mae'r Adar Gleision yn parhau yn y 12fed safle.