Gweilch i wynebu Stade yn y Principality
- Cyhoeddwyd

Bydd y gêm yn cael ei chwarae yn Stadiwm y Principality ar 2 Ebrill
Fe fydd gêm y Gweilch yn erbyn Stade Francais yn rownd gogynderfynol Cwpan Her Ewrop yn cael ei chwarae yn Stadiwm y Principality ddydd Sul 2 Ebrill am 17:45.
Does dim modd i'r clwb chwarae'r gêm ar Stadiwm y Liberty oherwydd bod clwb pêl-droed Abertawe'n chwarae yno ar yr un diwrnod yn erbyn Middlesbrough yn yr Uwch Gynghrair.
Fe fydd y gêm honno'n cael ei darlledu yn fyw ar y teledu.
'Dim dewis'
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr y Gweilch, Andrew Millward, ei bod yn anffodus iawn fod y gêm wedi gorfod cael ei symud.
Mae gêm y Gweilch hefyd yn cael ei darlledu, ac yn ôl Mr Millward, oherwydd amodau'r cytundeb darlledu, roedd yn rhaid chwarae'r gêm brynhawn Sul: "Felly doedd yna ddim dewis ond chwilio am le arall i chwarae'r gêm."
"Rydym yn ddiolchgar i'm cyfeillion yn Undeb Rygbi Cymru, sydd wedi'n cynorthwyo ni i allu i chwarae'r gêm bwysig hon yn Stadiwm y Principality.
"Gyda phum wythnos i fynd cyn y gêm, mae'n bwysig fod pawb nawr yn cydweithio er mwyn sicrhau fod y gêm a'r achlysur yn llwyddiant. "