Cywirdeb 'yn atal chwaraewyr' rhag siarad Cymraeg
Mae rhoi pwysau ar bobl i siarad Cymraeg pur yn gwneud rhai yn y byd chwaraeon yn llai parod i arddel yr iaith, yn ôl y darlledwr Jonathan Davies.
Roedd cyn faswr tîm rygbi Cymru yn siarad cyn cynhadledd yng Nghaerdydd ddydd Iau i hyrwyddo dwyieithrwydd mewn chwaraeon.