Cofio 90 mlynedd ers buddugoliaeth Cwpan FA Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Fred Keenor yn ysgwyd llaw capten Arsenal cyn buddugoliaeth yr Adar Gleision yn Wembley
Mae arddangosfa yn dathlu 90 o flynyddoedd ers i Glwb Pêl-droed Caerdydd ennill Cwpan FA Lloegr yn dechrau ddydd Sadwrn.
Enillodd yr Adar Gleision y gwpan yn 1927, yr unig dro yn ei hanes i'r gystadleuaeth gael ei hennill gan dîm o du allan i Loegr.
Yn cael eu harddangos mae medal y capten, Fred Keenor, o'r fuddugoliaeth dros Arsenal, a'r crys gafodd ei wisgo gan yr asgellwr Ernie Curtis.
Bydd nifer o luniau, rhaglen swyddogol o'r gêm a chopi o'r gwpan hefyd yn cael eu harddangos yn yr Hen Lyfrgell yng nghanol y brifddinas.
Er hynny, mae'r trefnwyr yn parhau i apelio am fwy o eitemau all gael eu rhoi yn yr arddangosfa.
Dywedodd hanesydd pêl-droed Cymru, Ceri Stennett: "Gan fod y diwrnod yn arbennig ac oherwydd buddugoliaeth Caerdydd, mae'r llawer o'r eitemau hyn wedi dod yn eiddo etifeddol mewn teuluoedd.
"Ond hoffwn glywed gan unrhyw un o Gaerdydd neu dde Cymru sydd ag unrhyw eitemau y bydden nhw'n fodlon eu benthyca i ni."