Arweinydd Plaid Werdd Cymru'n ymddiswyddo
- Cyhoeddwyd

Mae Alice Hooker-Stroud wedi cyhoeddi y bydd yn gadael ei rôl fel arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru.
Roedd Ms Hooker-Stroud wedi bod yn arweinydd ers 2015, a bydd yn cael ei holynu gan y dirprwy arweinydd presennol, Grenville Ham.
Dywedodd Ms Hooker-Stroud bod diffyg arian ar gyfer pleidiau llai yn y DU wedi cyfrannu at wneud ei rôl gwirfoddol yn un anghynaladwy.
Bydd yn gadael fel arweinydd ar ddiwedd y mis.

Grenville Ham yw'r dirprwy arweinydd ar hyn o bryd
Cafodd Mr Ham, sy'n rhedeg cwmni peirianneg nid-er-elw, ei ethol fel dirprwy arweinydd ym mis Rhagfyr.
Mae'n gyn-ymgeisydd etholiad y Cynulliad, a bydd yn ymgeisydd ar gyfer etholiadau'r cyngor yn Aberhonddu ym mis Mai.