Gohirio achos llofruddiaeth Janet Commins tan yr haf
- Cyhoeddwyd

Cafodd Janet Commins, 15 oed, ei threisio a'i llofruddio ym mis Ionawr 1976
Mae'r achos llys yn erbyn y dyn o'r Fflint sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio a threisio merch ysgol dros 40 mlynedd yn ôl wedi ei ohirio tan ddiwedd Mehefin.
Yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddoe fe blediodd Stephen Hough yn ddieuog i dri chyhuddiad - o dreisio a llofruddio Janet Commins o'r Fflint, ac un ymosodiad rhyw difrifol.
Cafodd y troseddau honedig eu cyflawni rhwng 5 a 12 Ionawr, 1976.
Yn wreiddiol roedd disgwyl i'r achos ddechrau wythnos nesaf.

Stephen Hough (dde) yn cael ei arwain i'r llys ym mis Medi 2016