Cyllid ar gyfer ysgolion newydd ym Mhowys
- Cyhoeddwyd

Mae ysgolion cynradd Talgarth a Chleirwy ymhlith y rhai a fydd yn cael eu disodli gan adeiladau newydd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo gwario bron i £11.8m ar bump o ysgolion cynradd newydd ym Mhowys.
Mae yna amcangyfrif y bydd cost y prosiect cyfan oddeutu 23.8 miliwn. Mae'r cyhoeddiad ddydd Mawrth yn golygu y bydd y gwaith o adeiladu yn dechrau yn fuan.
Mae'r cyllid ar gael fel rhan o'r Rhaglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif. Mae'r rhaglen, sy'n werth £1.4 biliwn, yn ffrwyth cydweithrediad rhwng Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol.
Bydd yr ysgolion newydd yn disodli yr ysgolion sy'n bodoli eisoes yn Y Gelli Gandryll, Cleirwy, Bronllys a Thalgarth, Llan-gors a Llys-wen.
'Newyddion gwych'
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys dros Ysgolion, y Cynghorydd Arwel Jones: "Rydym wrth ein bodd bod y cynlluniau uchelgeisiol sydd gennym ar gyfer pum ysgol gynradd newydd yn nalgylch Gwernyfed wedi cael eu cymeradwyo'n derfynol gan Lywodraeth Cymru, fel y gall y gwaith adeiladu ddechrau mor fuan â phosibl.
"Rhyngddyn nhw, bydd yr ysgolion yn darparu'r cyfleusterau diweddaraf lle y gall dysgwyr ifanc gael eu haddysgu, gan ddangos ymrwymiad y cyngor i addysg ym Mhowys."
Dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies: "Mae sicrhau buddsoddiad cyfalaf yn ystod y cyfnod economaidd anodd ar hyn o bryd yn hanfodol, nid yn unig ar gyfer deilliannau addysgol gwell ond hefyd i barhau i gefnogi ein diwydiant adeiladu ac ar gyfer twf yr economi.
"Mae hyn yn newyddion gwych i bobl leol ac ar gyfer dyfodol addysg yn yr ardal hon."