Y Bencampwriaeth: Blackburn Rovers 1-1 Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Fe ildiodd Gaerdydd gôl hwyr iawn yn Blackburn wrth i'r tîm cartref frwydro yn galed i atal tîm Neil Warnock rhag ennill oddi cartref.
Roedd Blackburn yn wrthwynebwyr 'styfnig wrth iddyn nhw frwydro yn galed i geisio aros yn y bencampwriaeth.
Fe ddaeth unig gôl Caerdydd yn yr hanner cyntaf.
Unwaith eto Kenneth Zohore oedd y sgoriwr -ei wythfed o'r tymor - wrth iddo daro ergyd ysgytwol o groesiad Junior Hoilett ar ôl 35 munud.
Bu'n rhaid i Gaerdydd frwydro yn galed wrth i Blackburn bwyso yn gyson yn yr ail hanner.
Derrick Williams oedd sgoriwr gôl haeddiannol Blackburn yn y funud olaf, wrth i'r tîm cartref gael eu gwobrwyo am eu hymdrech fawr yn yr ail hanner.