Carcharu cyn blismon gyda heddlu'r gogledd am dreisio
- Cyhoeddwyd

Dywedodd y barnwr nad oedd Ian James Clarke wedi dangos unrhyw edifeirwch
Mae cyn blismon gyda Heddlu Gogledd Cymru wedi cael ei garcharu am bum mlynedd am dreisio dynes yn Sir Y Fflint.
Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug ei fod wedi treisio'r ddynes tra bod ei wraig yn cysgu yn yr ystafell drws nesaf.
Dywedodd y barnwr Rhys Rowlands nad oedd Ian James Clarke, 48 oed, o Laneurgain ger Yr Wyddgrug, wedi dangos unrhyw edifeirwch.
Clywodd y llys fod y wraig yn aros yn ei dŷ ar 13 Rhagfyr, 2015 pan aeth i mewn i'r ystafell yn noeth "gan gredu na fyddai'r ddynes yn gallu ei wrthod".
Bydd yn rhaid i Clarke, oedd wedi gwasanaethau yn Afghanistan fel milwr gyda'r fyddin wrth gefn, hefyd gofrestru fel troseddwr rhyw am oes.

Cafodd y cyn blismon gyda Heddlu Gogledd Cymru ei ddedfrydu i garcharu am bum mlynedd wedi'r achos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug
Dywedodd y barnwr fod yr achwynydd wedi dangos dewrder mawr wrth roi ei thystiolaeth.
Dywedodd wrth Clarke ei fod yn "ddyn a meddwl mawr o'ch hunain ac heb foesoldeb".
Roedd y barnwr yn derbyn fod alcohol wedi chwarae rhan sylweddol pan benderfynodd y diffynnydd gymryd mantais o'r ffaith fod y ddynes yn aros yn y tŷ.
Ychwanegodd: "Doedd gennych ddim meddwl o gwbl am deimladau'r ddynes na chwaith deimladau eich gwraig."
Dywedodd y bargyfreithwyr Bob Sastry ar ran y diffynnydd ei fod wedi colli ei enw da, ei briodas a'i yrfa.
'Trosedd erchyll'
Wedi'r ddedfryd, dywedodd y Ditectif Arolygydd Jo Williams o uned amddiffyn pobl fregus Heddlu Gogledd Cymru: "Mae Iain Clarke wedi ei garcharu am bum mlynedd am drosedd ddifrifiol iawn.
"Rwy'n cydymdeimlo â'r unigolyn a dioddefodd y drosedd erchyll hon a hoffwn ei chanmol am ei dewrder a'i hurddas drwy gydol yr achos.
"Rwy'n gobeithio bod y canlyniad yn rhoi hyder i bobl y gogledd yn y ffaith fod Heddlu Gogledd Cymru a'i bartneriaid cyfiawnder troseddol yn ymrwymiedig i ddod â'r bobl hynny sy'n cyflawni troseddau fel hyn i gyfri, pwy bynnag ydyn nhw."
Ychwanegodd heddlu'r gogledd eu bod wedi bod yn cynnal ymchwiliad safonau proffesiynol, fydd yn dod i ben o fewn y dyddiau nesaf.