Ffoaduriaid ifanc: 'Oedi sylweddol yn risg'
- Cyhoeddwyd

Mae ffoaduriaid ifanc sy'n cyrraedd Caerdydd yn wynebu risg oherwydd oedi "sylweddol" yn y broses o wirio eu hoed, yn ôl asiantaeth.
Dywedodd y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol (GEIC) bod rhai pobl ifanc yn aros am wythnosau am asesiadau, gyda rhai yn cael eu rhoi mewn llety i oedolion tra eu bod yn aros.
Mae adroddiad wedi codi pryderon am "broblemau diogelu difrifol" i blant sy'n gwneud cais am loches ar ben eu hunain.
Bydd Cyngor Caerdydd yn ystyried yr adroddiad ddydd Mawrth.
'Dyletswydd'
Mae'r adroddiad gan dîm Caerdydd o GEIC, sy'n gweithio fel gofalwyr i ffoaduriaid sy'n dod i'r wlad ar ben eu hunain, yn pryderu am y gefnogaeth gan wasanaethau plant y cyngor.
Rhwng Awst 2016 ac Ionawr 2017 fe welodd GEIC gynnydd yn nifer y bobl ifanc sy'n chwilio am rywun i'w cynrychioli yn ystod y broses o wirio eu hoedran.
Mae'r adroddiad yn dweud bod "anghysondebau" gyda ble mae plant yn cael llety wrth aros, gyda rhai yn cael cefnogaeth y gwasanaeth, ond eraill ddim.
Yn ogystal, mae'r adroddiad yn dweud bod problemau "capasiti" o ran mynychu apwyntiadau gyda chyfreithwyr a gwrandawiadau llys os ydyn nhw'n cael eu rhoi mewn canolfan mewnfudo.
Yn ôl yr adroddiad: "Er ein bod yn cydnabod bod gan wasanaethau plant adnoddau cyfyngedig, mae dyletswydd i ofalu am y grŵp bregus iawn yma sydd angen ymyrraeth gadarn yn y cyfnod anodd a thrawmatig yma yn eu bywydau."
'Wedi synnu'
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd y cynghorwyr Chris Elsmore a Sue Lent eu bod "wedi synnu" gan sylwadau GEIC am nad oedden nhw wedi cael eu codi o'r blaen.
Dywedodd y ddau fod gan yr awdurdod ddigon o weithwyr cymdeithasol i ymgymryd â gwirio oed, a bod pobl ifanc yn derbyn llety priodol tra bod asesiadau'n cael eu cwblhau.
Ychwanegwyd bod y cyngor wedi gofyn am esiamplau penodol o oedi gan GEIC.