Grant Newsquest: Llywodraeth Cymru i hawlio arian yn ôl?
- Cyhoeddwyd

Mae'r ddesg is-olygu ar safle Newsquest yn gwasanaethu papurau ar draws y DU
Fe allai Llywodraeth Cymru hawlio grant o £245,000 gan gwmni papurau newydd sydd yn cau adran is-olygu.
Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones wrth aelodau'r Cynulliad y byddai gweinidogion yn edrych ar hawlio'r arian yn ôl os nad oedd cwmni Newsquest yng Nghasnewydd yn cadw at amodau'r grant.
Cafodd y grant ei gymeradwyo ar yr amod fod 50 o swyddi'n cael eu creu a 15 swydd yn cael eu diogelu, gyda'r rhain mewn lle erbyn 2020.
Fe roddwyd cyfanswm o £340,000 o arian cymorth
Agorodd Newsquest, sy'n cynhyrchu papurau newydd yn cynnwys y South Wales Argus, y ddesg is-olygu yn 2013.
Yn ei anterth roedd yn cyflogi dros 70 o bobl, gan is-olygu deunydd oedd wedi ei ysgrifennu gan ohebwyr o 100 o bapurau dyddiol o bob cwr o'r DU.
Yn dilyn dau gyfnod o ddiswyddiadau yn 2016, bydd yr adran is-olygu yn cau ym mis Ebrill, gyda'r gwaith yn symud i Weymouth, Dorset.
Pan ofynnodd yr AC Ceidwadol Mohammad Asghar am yr arian grant yn y Senedd ddydd Mawrth, dywedodd Carwyn Jones fod y cwmni wedi creu mwy o swyddi na'r targed oedd wedi ei osod.
Ond ychwanegodd: "Os na fydd yr amod yma'n cael ei gadw fe fyddwn yn edrych i hawlio'r arian yn ôl."