Carcharu dyn am 16 mis am frathu clust dyn arall
- Cyhoeddwyd

RHYBUDD: FE ALLAI'R LLUN NESAF BERI GOFID
Mae cyn-filwr oedd wedi gwisgo fel Colonel Gaddafi pan frathodd ddarn o glust dyn arall i ffwrdd mewn tafarn yn Aberystwyth wedi ei garcharu am 16 mis.
Clywodd Llys y Goron Abertawe bod Geraint Jones, 25, wedi gwisgo mewn gwisg ffansi ar gyfer "parti di-chwaeth" pan wnaeth ymosod ar Gwynant Jones.
Roedd y diffynnydd wedi bod yn nhafarn yr Academy am chwe munud pan frathodd clust Gwynant Jones, 25 oed, i ffwrdd a'i boeri ar y llawr.
Roedd Jones, o Aberystwyth, eisoes wedi cyfaddef i gyhuddiad o achosi niwed corfforol difrifol, ond cafwyd yn ddieuog o wneud hynny gyda bwriad.

Mae Gwynant Jones angen mwy o driniaeth wedi'r ymosodiad
Clywodd y llys bod y diffynnydd wedi dechrau yfed yn y prynhawn wrth wylio rygbi ar 31 Hydref 2015.
Bu'n rhaid i Gwynant Jones o Fachynlleth dderbyn triniaeth yn ysbyty Treforys, a bydd angen rhagor o driniaeth iddo yn y dyfodol.
Yn dilyn y dyfarniad, dywedodd Gwynant Jones ei fod yn siomedig gyda hyd y ddedfryd a roddwyd i Geraint Jones:
"Rwyf fi wedi fy siomi'n fwy na dim ei fod dim ond wedi derbyn 16 mis am wneud peth mor ddifrifol. Ac i feddwl y bydd yn rhaid i mi fyw gyda hyn am weddill fy oes, ac fe allai e fod allan ar ôl hanner ei ddedfryd.
"Os byddai wedi ei gael yn euog o achosi niwed corfforol difrifol a bwriadol, fe fyddai wedi bod yn 10 i 12 mlynedd, felly rwy'n siomedig iawn gyda 16 mis."
Mae'r ymosodiad yn dal yn fyw yng nghof Gwynant Jones
Dywedodd Geraint Jones wrth y llys ei fod wedi bwriadu brathu clust Gwynant Jones.
"Fy mwriad wrth fynd ato oedd brathu ei glust," meddai. "Mae'n beth ofnadwy i wneud ond doedd gennyf ddim bwriad brathu'r glust i ffwrdd."
Clywodd y llys fod yna wthio wedi bod yn y dafarn wrth i bobl geisio mynd at y bar.
Dywedodd y barnwr Geraint Walters: "Fe wnaethoch chi benderfynu dial am hyn. Nid wyf yn deall pam i chi benderfynu defnyddio eich dannedd fel arf."
Ychwanegodd y barnwr ei fod yn derbyn fod y glust wedi ei rhwygo o gorff Gwynant Jones wrth i eraill geisio gwahanu'r ddau.
Clywodd y llys bod Jones yn gyn-filwr oedd wedi gwasanaethu yn Afghanistan ac roedd yn fyfyriwr Gwleidyddiaeth a Hanes Rhyngwladol ar ei drydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Dywedodd y barnwr er ei fod yn derbyn sylw'r amddiffyniad bod ei gyfnod yn Afghanistan yn rhywbeth i'w ystyried wrth ddedfrydu ond ychwanegodd na fyddai cyfnod o garchar gohiriedig yn addas yn yr achos hwn.