Casnewydd 1-1 Luton
- Cyhoeddwyd

Daeth Casnewydd yn ôl i sicrhau gêm gyfartal gartref yn erbyn Luton er iddyn nhw fynd ar ei hôl hi ar ôl pum munud o chwarae.
Sgoriodd Danny Hylton i'r ymwelwyr cyn i Sean Rigg unioni'r sgôr wedi 28 munud.
Bu'n rhaid i'r tîm cartref chwarae'r 10 munud olaf gyda 10 dyn wedi i Mark O'Brien gael ei hel o'r maes.
Mae Casnewydd yn dal i fod mewn sefyllfa fregus iawn ar waelodion tabl Adran 2.