Cwest achos Argoed: 'Dim tystiolaeth' o fwyta corff
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth Cerys Yemm a Matthew Williams gwrdd tua phythefnos cyn yr ymosodiad
Doedd dim tystiolaeth bod rhannau o gorff dynes gafodd ei lladd wedi cael eu bwyta, yn ôl patholegydd gyda'r Swyddfa Gartref.
Bu farw Cerys Yemm, 22, wedi i Matthew Williams, 34, ymosod arni mewn hostel yn Argoed, Sir Caerffili yn 2014.
Clywodd cwest bod Ms Yemm, wedi cael 89 o anafiadau - hanner y rheiny i'w phen - ac mai achos meddygol ei marwolaeth oedd trawma i'r wyneb a'r gwddf.
Dywedodd y patholegydd, Dr Richard Jones, wrth y cwest bod Ms Yemm hefyd wedi colli ei llygad chwith yn yr ymosodiad.
Anafiadau i'r geg
Bu farw Williams ar ôl i'r heddlu ei saethu â gwn Taser yn dilyn yr ymosodiad ar Ms Yemm mewn stafell wely yn y Sirhowy Arms yn ystod oriau mân 6 Tachwedd 2014.
Dywedodd Dr Jones mai anafiadau i geg Ms Yemm oedd fwyaf arwyddocaol.
Roedd hi wedi cael ei brathu tri neu bedwar o weithiau, ond chyfrannodd hynny ddim at ei marwolaeth.
Clywodd y cwest hefyd bod profion wedi dangos bod Ms Yemm wedi defnyddio amffetaminau a chanabis cyn ei marwolaeth, ond doedd hynny 'chwaith ddim yn ffactor yn ei marwolaeth.
Mae'r cwest i farwolaethau Ms Yemm a Williams yn parhau.