Dynes wedi marw wythnos wedi iddi gael ei tharo gan gar
- Cyhoeddwyd

Cafodd Pamela Lancaster ei tharo gan y car ar Clarence Place yng Nghasnewydd
Mae dynes wedi marw yn yr ysbyty bron i wythnos ar ôl iddi gael ei tharo gan gar yng Nghasnewydd.
Cafodd Pamela Lancaster, 47 oed o'r ddinas, ei tharo gan gar Ford Focus yn y digwyddiad ddydd Iau diwethaf.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Clarence Place tua 13:30.
Cafodd ei chymryd i Ysbyty Athrofal Cymru yng Nghaerdydd ond mae hi bellach wedi marw o'i hanafiadau.
Mae Heddlu Gwent yn apelio i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â'r llu.