Llofruddiaeth Wrecsam: Cyhuddo dyn 25 oed
- Cyhoeddwyd

Cafodd yr heddlu eu galw i Glôs Cilgant yn Wrecsam fore Llun
Mae'r heddlu wedi cadarnhau bod dyn 25 oed wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth Nicholas Churton yn ei gartref yn Wrecsam.
Mae Jordan Davidson, o Wrecsam, hefyd yn wynebu tri chyhuddiad o ddwyn, dau drosedd lladrata, ymgais i achosi niwed corfforol difrifol i swyddog heddlu, ac ymosod ar swyddog heddlu gan achosi niwed corfforol.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Wrecsam fore ddydd Sadwrn.
Dywedodd yr heddlu eu bod wedi rhoi gwybod i deulu Mr Churton am y datblygiadau diweddaraf.
Cefnogaeth
Cafodd yr heddlu eu galw am 08:23 fore Llun i gyfeiriad ar Glôs Cilgant yn Wrecsam, lle cafwyd hyd i gorff Mr Churton, oedd yn 67 oed.
Yn ogystal ag arestio Mr Davidson, mae tri o bobl eraill hefyd wedi cael eu holi ac yna eu rhyddhau ar fechnïaeth mewn cysylltiad â'r achos.
Mewn datganiad ar ôl i Mr Davidson gael ei gyhuddo, dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Iestyn Davies: "Hoffwn ddiolch i gymuned Wrecsam a'r ardal ehangach am eu cefnogaeth sylweddol hyd yn hyn.
"Rwy'n parhau i apelio am gefnogaeth gan y bydd yr ymchwiliad yma'n parhau am rai wythnosau."