Pryder am newid 'brawychus' i daliadau is-bostfeistri
- Cyhoeddwyd

Gallai is-bostfeistri ar draws Cymru a Lloegr gael eu gorfodi i roi'r gorau iddi wedi i'r Swyddfa Bost leihau'r ffioedd maen nhw'n ei dalu i staff am ddelio ag eiddo.
Cafodd y toriadau ei ddisgrifio gan lefarydd ar ran undeb CWU fel rhai "brawychus", a ddywedodd na fyddai cyflog cyfartalog is-bostfeistri o £10,000 y flwyddyn yn gallu ymdopi â'r gostyngiad.
Ar hyn o bryd mae is-bostfeistri yn derbyn tâl am bob amlen neu barsel sy'n mynd drwy eu dwylo.
Er bod y newidiadau yn cynnwys cynnydd mewn rhai ffioedd, megis gwerthu stamp dosbarth cyntaf, bydd eraill yn gostwng, gan gynnwys y ffi safonol am bob eitem o 15c i 11c.
'Wedi synnu'
"Cawsom i gyd ein synnu pan ddaeth y llyfryn ffioedd drwy'r blwch post," meddai Mark Baker, sydd yn is-bostfeistr a llefarydd ar ran CWU.
"Maen nhw [y Swyddfa Bost] yn lleihau o leiaf hanner y trafodion yn sylweddol. Mae'r rhain yn doriadau brawychus fydd yn effeithio ar hyfywedd y rhan fwyaf o swyddfeydd post, yn enwedig rhai bach a chanolig, ac mae 6,000 o'r rheiny yng Nghymru a Lloegr."
Ym mis Mawrth 2016 roedd 919 cangen swyddfa bost yng Nghymru, o'i gymharu â 1,167 deng mlynedd ynghynt.
Dywedodd CWU nad oedd eu haelodau wedi cael unrhyw rybudd o'r newidiadau, fydd yn dod i rym ar 1 Hydref, a hynny flwyddyn yn unig ers i is-bostfeistri gytuno i delerau gwaith newydd yn ymwneud ag yswiriant gwladol a chyfraniadau pensiwn.
Taliadau is-bostfeistri: Yr ymateb yn Nryslwyn
Pryder yr undeb, gyda llawer o ganghennau gwledig eisoes dan fygythiad, y bydd hyd yn oed siopau trefol nawr yn ailystyried y gwasanaethau post maen nhw'n ei ddarparu.
"Ar hyn o bryd mae llawer yn cael eu rhedeg fel gwasanaeth cymdeithasol gan y cwmnïau mawr," meddai Mr Baker.
"Os yw maint yr elw yn newid ym mis Hydref fyddan nhw hyd yn oed yn trafferthu cadw'r canghennau yma ar agor?"
Mewn ymateb dywedodd y Swyddfa Bost fod y newidiadau yn rhan o raglen moderneiddio, a'u bod am "sicrhau bod ein canghennau yn fusnesau sydd yn llewyrchus yng nghalon ein cymunedau".
"Mae'r newidiadau yn cynnwys cyflwyno taliadau ychwanegol, ac ail-gydbwyso taliadau er mwyn cymryd gwell ystyriaeth o gymhlethdodau gwahanol drafodion a cheisio annog gwell gwasanaeth i gwsmeriaid," meddai llefarydd.