Badau achub wedi arbed bywyd 73 i bobl yn 2016
- Cyhoeddwyd

Cafodd y bad achub yma yn Sir Benfro ei galw i'r môr 50 o weithiau yn 2016
Fe wnaeth badau achub arbed bywyd 73 o bobl y llynedd, yn ôl ystadegau diweddara'r RNLI.
Cafodd criwiau yng Nghymru eu galw i'r môr 1,175 o weithiau yn 2016 - cynnydd o 11% ar y flwyddyn flaenorol.
Gorsaf y Mwmbwls yn Abertawe oedd y prysuraf unwaith eto, gyda badau'n cael eu galw ar 83 achlysur.
Hefyd roedd yn rhaid i achubwyr bywyd yr RNLI ymateb i 1,271 o alwadau ar 39 traeth y maen nhw'n eu goruchwylio.

Mae'r ffigyrau ar gyfer 2016 hefyd yn dangos mai:
Criw Penarth, Bro Morgannwg achubodd y nifer mwyaf o bobl - 109, gyda saith o'r rheiny'n fywydau a achubwyd;
Bad achub Tamar yn Sir Benfro oedd y bad pob tywydd prysuraf, gan iddo gael ei ddefnyddio 50 o weithiau;
RNLI Porthcawl, ym Mhen-y-Bont, oedd yr orsaf brysuraf ar y tir, gydag 80 lansiad;
Yn Nhyddewi, Sir Benfro, oedd y cynnydd mwyaf yn nifer y pobl gafodd eu hachub;
Yr orsaf yn y Rhyl, Sir Ddinbych, oedd y prysuraf yn y gogledd.

Mae'r RNLI yn ddiweddar wedi agor canolfan i ymwelwyr yn Ynys y Barri, Bro Morgannwg.
Eu gobaith yw denu 30,000 o bobl i'w haddysgu am ddiogelwch yn y dŵr.