Tad o Langefni wedi marw ar ôl ymosodiad ym Mangor
- Cyhoeddwyd

Mae dyn 27 oed o ardal Llangefni wedi marw yn dilyn ymosodiad ger clwb nos ym Mangor fore Sadwrn.
Roedd Henry Ayabowei yn briod â dau o blant.
Ddydd Sul, cafodd dyn 26 oed o'r ardal ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.
Fe gafodd yr heddlu eu galw i'r lleoliad ger clwb Peep ar Stryd y Deon ychydig cyn 02:00 fore Sadwrn, yn dilyn adroddiadau bod dyn yn anymwybodol.
Cafodd Mr Ayabowei ei gludo i Ysbyty Gwynedd, cyn cael ei drosglwyddo i Stoke, lle bu farw fore Sul.
Mae swyddogion arbenigol yn rhoi cefnogaeth i'w deulu ar hyn o bryd.

Cafodd y dyn lleol 26 oed ei arestio mewn cysylltiad â'r ymosodiad ddydd Sadwrn, ac aeth o flaen Llys Ynadon Llandudno ddydd Sul.
Fe gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn ddiweddarach, ac mae'n cael ei gadw dan glo yng ngorsaf heddlu Caernarfon.
Mynegodd yr Arolygydd Owain Llewellyn o Heddlu'r Gogledd ei "sioc" a'i "dristwch" yn dilyn "marwolaeth drasig y dyn teulu ifanc yma".
Mae'r heddlu'n apelio am dystion ac yn galw ar bobl sydd â lluniau neu fideo o Stryd y Deon rhwng 01:30 a 02:15 fore Sadwrn i gysylltu â nhw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2017
