Aelod Cynulliad UKIP i wynebu pleidlais diffyg hyder
- Cyhoeddwyd

Cafodd Michelle Brown ei hethol dros ranbarth Gogledd Cymru yn etholiadau Mai 2016
Bydd un o aelod rhanbarthol UKIP yn y Cynulliad yn wynebu pleidlais o ddiffyg hyder gan aelodau'r blaid yn y gogledd.
Mewn cyfarfod agored ym mhentref Helygain, Sir y Fflint ddydd Llun, fe wnaeth unigolion o chwe changen etholaethol UKIP yng ngogledd ddwyrain Cymru bleidleisio yn erbyn Michelle Brown AC mewn pleidlais gychwynnol o ddiffyg hyder ynddi.
Bydd y mater yn cael ei gyfeirio at holl aelodau etholaethol y blaid mewn pleidlais arall ymhen mis.
Roedd 18 o aelodau a chefnogwyr yn y cyfarfod ddydd Llun, a'r rhain yn cynrychioli canghennau UKIP o Wrecsam a De Clwyd, Alun a Dyfrdwy, Delyn, Dyffryn Clwyd a Gorllewin Clwyd.
Cafodd y cyfarfod ei gynnal gan Shaun Owen, is-gadeirydd cangen y blaid yn etholaeth Delyn.
Llythyr
Roedd Mr Owen wedi llunio llythyr "ar ran aelodau UKIP yng ngogledd Cymru" oedd yn gwahodd Ms Brown i'r cyfarfod i drafod ei "chamymddwyn difrifol".
Yn y llythyr, roedd 18 o bryderon oedd yn "debygol o ddwyn anfri ar y blaid" wedi eu rhestru.
Roedd yn dweud bod "teimlad cryf o anniddigrwydd, dadrithiad a phryder" ymhlith aelodau am ymddygiad Ms Brown.
Doedd Michelle Brown ddim yn y cyfarfod i drafod ei hymddygiad, ac fe gafodd cynorthwywraig iddi ei gorfodi i adael y gwesty lle'r oedd y cyfarfod yn cael ei chynnal, wedi iddi gael ei chyhuddo o "darfu".
Dywedodd llefarydd ar ran Ms Brown mai "cecru mewnol dibwys" yw sail yr honiadau yn ei herbyn.