Heddlu'n defnyddio DNA i brofi achos o ddwyn defaid
- Cyhoeddwyd

Cafodd praidd o ddefaid oedd wedi eu dwyn, eu darganfod gan yr heddlu wedi i brofion DNA gael eu cynnal ar yr ŵyn bach.
Roedd yr heddlu wedi derbyn galwad gan ffermwr oedd yn honni iddo weld y praidd gafodd ei ddwyn ganddo mewn marchnad anifeiliaid - bythefnos yn unig wedi iddyn nhw ddiflannu.
Clywodd y llys bod PC Meirion Jenkins wedi aros deufis nes i ddwy o'r defaid roi genedigaeth.
Cafodd samplau DNA eu cymryd o'r ŵyn newydd anedig, a hyrddod o'r fferm yn Rhydaman ble cafodd y praidd eu dwyn, ac fe ddangosodd y profion mai o'r fferm honno yr oedden nhw wedi dod.
'Ymroddiad'
Cyfaddefodd Andrew Thomas, 39, o Garnant ger Abertawe i'r cyhuddiad o drin nwyddau wedi eu dwyn, a bydd yn cael ei ddedfrydu yn ddiweddarach yn Llys y Goron Abertawe.
"Fel arfer mae achosion dwyn defaid yn anodd eu hadnabod ac erlyn, a doedd yr achos yma ddim yn eithriad," meddai'r arolygydd Matthew Howells.
"Er nad oedd modd i ni brofi pwy wnaeth ddwyn y defaid, roedd modd i ni ddefnyddio technegau fforensig sydd fel arfer yn cael eu defnyddio ar gyfer pobl i brofi mai'r defaid yma oedd y rhai gafodd eu dwyn.
"Hoffwn gymeradwyo'r dioddefwr yn yr achos yma am yr ymroddiad a ddangosodd wrth geisio sicrhau cyfiawnder."