Cyn bennaeth elusen digartref yn cyfaddef twyll £1.3m
- Cyhoeddwyd

Roedd Robert Davies yn gweithio i Cyrenians Cymru pan ddigwyddodd y troseddu
Mae cyn bennaeth elusen i'r digartref wedi cyfaddef ffugio anfonebau gwerth £1.3m i mewn i'w gyfrif banc personol.
Roedd Robert Davies, 50 o Abertawe, yn gweithio i elusen Cyrenians Cymru pan ddigwyddodd y troseddu rhwng Mehefin 2008 a Thachwedd 2014.
Aeth yr elusen i'r wal ddeufis ar ôl i Davies gael ei arestio yn Rhagfyr 2014.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd bod Davies wedi defnyddio'r arian i deithio dramor, wrth iddo gyfaddef twyll ddydd Iau.
'Dinistrio'
Dywedodd yr erlyniad bod y twyll un o'r "prif ffactorau" oedd yn gyfrifol am ddod â'r elusen i ben.
Mynnodd yn amddiffyniad fod Davies yn "ddyn â chymeriad da", ond eu bod yn cydnabod bod ei weithredoedd wedi "dinistrio'r elusen".
Dywedodd y Cofiadur Eleri Rees bod Davies yn wynebu dedfryd "hir" o garchar, a chafodd ei gadw yn y ddalfa nes y bydd yn cael ei ddedfrydu ar 25 Ebrill.