Arestio dyn wedi i ddynes 19 oed gael 'anafiadau difrifol'
- Cyhoeddwyd

Cafodd yr heddlu eu galw i Goedlan y Graig am tua 17:45 ddydd Iau
Mae dynes 19 oed wedi cael ei chludo i'r ysbyty ag anafiadau difrifol yn dilyn digwyddiad yn Llanelli.
Cafodd ffordd Coedlan y Graig yn y dref ei chau ddydd Iau wedi i'r heddlu gael eu galw i dŷ ar y stryd am 17:45.
Mae dyn 21 oed bellach wedi cael ei arestio.
Gofynnodd Heddlu Dyfed Powys wrth unrhyw un oedd yn yr ardal rhwng 17:00 a 19:00 a welodd rhywbeth i gysylltu â nhw ar 101.