Wrecsam 1-3 Maidstone
- Cyhoeddwyd

Joe Piggott oedd sgoriwr gôl gyntaf Mansfield
Mae Wrecsam bellach wedi mynd saith gêm heb ennill ar ôl cael eu trechu gartref gan Maidstone yn y Gynghrair Genedlaethol.
Rhoddodd Jordan White y tîm cartref ar y blaen wedi naw munud, cyn i Joe Piggott unioni'r sgôr ar ôl hanner awr o chwarae.
Ar ôl 51 munud fe aeth Maidstone ar y blaen diolch i ergyd Jamar Loza, cyn i'r eilydd Anthony Barry fethu cic o'r smotyn i Wrecsam.
Ychwanegodd Alex Flisher drydedd i'r ymwelwyr gydag wyth munud i fynd i sicrhau'r fuddugoliaeth.