Y Barri yn ennill eu lle yn Uwch Gynghrair Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae clwb pêl-droed y Barri yn dathlu ar ôl ennill eu lle yn Uwch Gynghrair Cymru y tymor nesaf, yn dilyn buddugoliaeth yn erbyn Goytre.
Fe guron nhw'r gwrthwynebwyr o 3-0, gyda goliau gan Luke Cooper, Tyrell Webbe a Drew Fahiya.
Mae'r Barri nawr yn sicr o orffen y tymor yn nau safle uchaf adran gyntaf Cynghrair Bêl-droed Cymru.
Mae'r fuddugoliaeth yn dipyn o newid byd i'r clwb, o ystyried trafferthion y blynyddoedd diwethaf, a'r ffaith i'r clwb fwy neu lai ddiflannu'n llwyr ychydig dros bedair blynedd yn ôl.
Llwyddiannau'r gorffennol
Dros y degawdau, fe wynebodd y clwb rai o gewri'r byd pêl-droed, gan gynnwys QPR a Reading, cyn ennill eu lle yn Adran Gyntaf Cynghrair Cymru ym 1993, a gorffen yn bencampwyr ar sawl achlysur.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, fe wynebon nhw Dynamo Kiev a Boavista yn Ewrop, gyda chwaraewyr fel Andriy Shevchenko a Sergei Rebrov yn ymweld â Pharc Jenner.
Yn 2001, aeth y Barri ymlaen i greu hanes drwy ddod y tîm cyntaf o Gymru i ennill gêm ragbrofol yng Nghynghrair y Pencampwyr, wrth guro FK Shamkir o Azerbaijan dros ddau gymal.
Porto oedd y gwrthwynebwyr nesaf, ac er iddyn nhw golli'n drwm o 8-0 yn y cymal cyntaf, fe sicrhaon nhw fuddugoliaeth hanesyddol gartref o 3-1 yn yr ail gymal.
Cadeirydd CPD Y Barri, Eric Thomas, yn edrych ymlaen at ddychwelyd i'r Uwch Gynghrair y tymor nesaf
Ond roedd yna gyfnod tywyll i ddod i'r clwb, ac o dan berchnogaeth Stuart Lovering, fe gollodd y tîm eu lle yn Uwch Gynghrair Cymru yn 2013.
Bu'n rhaid i gefnogwyr fynd â'u hachos i'r Uchel Lys i achub y clwb, cyn sicrhau eu lle yn ôl ar haen waelod Cynghrair Cymru.
Nawr, bedair blynedd yn ddiweddarach, mae ysgrifennydd y clwb, David Cole, yn dweud fod y gwaith caled o'r diwedd wedi dwyn ffrwyth.
Stori dylwyth teg
"Y man isaf oedd pan nad oedd hi'n ymddangos fod ffordd yn ôl i gynghreiriau Cymru," meddai Mr Cole cyn y fuddugoliaeth yn erbyn Goytre.
"Ers hynny, mae hi wedi bod fel stori dylwyth teg wrth i ni godi drwy'r cynghreiriau.
"Mae hyn nid yn unig wedi dod â'r cefnogwyr a'r chwaraewyr at ei gilydd, ond y dref gyfan hefyd.
"Byddai cyrraedd Uwch Gynghrair Cymru, lle buon ni o'r blaen, yn ddiweddglo perffaith wedi'r holl ymdrechion."