ASau yn cefnogi galwad Theresa May am etholiad buan
- Cyhoeddwyd

Mae Aelodau Seneddol wedi pleidleisio o blaid cynnal etholiad cyffredinol buan ar 8 Mehefin.
Fe wnaeth ASau gefnogi galwad y Prif Weinidog Theresa May o 522 i 13 mewn pleidlais yn Nhŷ'r Cyffredin.
Cyhoeddodd Mrs May ei bwriad i gynnal etholiad buan ddydd Mawrth.
Yn ôl Deddf Seneddau Tymor Penodol 2011, mae'n rhaid cynnal etholiad cyffredinol pob pum mlynedd ar ddydd Iau cyntaf mis Mai, ac felly roedd y nesaf i fod ym mis Mai 2020.
Er mwyn cynnal yr etholiad, roedd Mrs May angen i ddwy ran o dair o aelodau gefnogi ei galwad, neu 434 o bleidleisiau.
Dywedodd Mrs May ei bod hi'n galw'r etholiad er mwyn rhoi sefydlogrwydd a sicrwydd wrth drafod Brexit.
Un o'r 13 wnaeth bleidleisio yn erbyn cynnal etholiad oedd yr AS Cwm Cynon, Ann Clwyd.
Fe wnaeth wyth AS Llafur Cymreig ymatal rhag pleidleisio: Geraint Davies, Paul Flynn, Madeleine Moon, Wayne David, Jo Stevens, Susan Elan Jones, David Hanson, Chris Bryant.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2017

- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2017
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2017
