Meddygon yn cael 'trafferth ymdopi', yn ôl arolwg
- Cyhoeddwyd

Mae meddygon ledled Cymru yn cael trafferth ymdopi â phwysau'r gwasanaeth iechyd yn y gaeaf, yn ôl arolwg.
Yn ôl arolwg Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru roedd bron i dri chwarter yr ymatebwyr wedi gweld "cynnydd mawr" yn y galw ar y GIG yn y flwyddyn ddiwethaf.
Yn cyhoeddi'r canlyniadau, fe wnaeth y coleg alw am i "fwy o ofal arbenigol gael ei ddarparu yn y gymuned".
Cafodd eu hadroddiad ei lunio ar ymatebion 94 o feddygon ledled Cymru i'r arolwg.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y niferoedd sydd wedi ymateb i'r arolwg yn fach iawn, "llai na 1% o'u haelodaeth yng Nghymru" a bod pwysau ar y gwasanaeth iechyd dros gyfnod y gaeaf "ddim yn anghyffredin".

Fe wnaeth yr adroddiad ganfod bod:
Bron i dri chwarter y rhai wnaeth ymateb wedi gweld cynnydd mawr yn y galw ar y GIG yn ystod y flwyddyn ddiwethaf;
Mwy na hanner o'r farn bod diogelwch cleifion yn eu hysbytai wedi gwaethygu;
Pedwar o bob pump wnaeth ymateb wedi profi prinder staff;
Mwy na thri chwarter wedi profi oedi cyn rhyddhau cleifion o'r ysbyty o ganlyniad i ddiffyg capasiti ym maes gofal cymdeithasol.


'Yr argyfwng yn gwaethygu'
Galwodd y coleg am "drawsnewid GIG tameidiog drwy wella cynllunio cydgysylltiedig ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol".
Dywedodd yr is-lywydd, Dr Gareth Llewelyn: "Ledled Cymru, mae meddygon ymgynghorol a meddygon dan hyfforddiant yn gweithio wrth ddrws ffrynt yr ysbytai ac ar y wardiau.
"Ond er gwaethaf eu gwaith caled, mae'r meddygon hyn yn cael trafferth ymdopi.
"Mae'r argyfwng recriwtio yn gwaethygu - y llynedd, ni lwyddwyd i lenwi 40% o'r swyddi gwag i feddygon ymgynghorol yng Nghymru ac mae bylchau mawr yn y rota i feddygon dan hyfforddiant ym mhob ysbyty yng Nghymru.
"Ni all y sefyllfa hon barhau."
'Pwysau'n gyffredin'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai nifer fach o bobl sydd wedi eu holi a'i bod hi'n gyffredin i'r gwasanaeth iechyd deimlo pwysau yn ystod cyfnod y gaeaf.
Mae'r llywodraeth hefyd yn dweud bod miloedd o gleifion yn cael triniaeth ddiogel o ansawdd uchel, ond bod camgymeriadau yn gallu digwydd.
"Pan mae hyn yn digwydd mae'n rhaid i'r GIG ymchwilio yn agored a dysgu a rhoi sicrwydd ac adborth i gleifion a'u teuluoedd," meddai'r llefarydd.
Ychwanegodd eu bod yn croesawu ymdrechion y coleg i gael mwy o feddygon ysbytai i weithio yn y gymuned leol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2016
