Colin Ingram yn serennu ond Swydd Gaerlŷr yn taro 'nôl
- Cyhoeddwyd

Roedd y tîm cartref, Sir Gaerlŷr, 194 rhediad ar y blaen i Forgannwg gyda saith wiced mewn llaw ar ddiwedd trydydd diwrnod y gêm rhwng y ddwy sir.
Colin Ingram, oedd seren Morgannwg efo'r bat yn sgorio 137 rhediad ond y tîm o Loegr oedd a'r llaw uchaf yn ystod sesiwn y pnawn ar ôl cael gwared â'r pedwar batiwr olaf am ddim ond 42.
426 oedd sgôr y tîm o Gymru ar ddiwedd eu batiad cyntaf, chwe rhediad yn well na chyfanswm Sir Gaerlŷr.
Ond erbyn diwedd y diwrnod roedd Caerlŷr wedi sgorio 200-3.