Torri tywarchen Maes Eisteddfod yr Urdd ym Mhen-y-bont
- Cyhoeddwyd
Cafodd y dywarchen gyntaf ei thorri ar dir Campws Pencoed, Coleg Pen-y-bont ddydd Llun
Mae'r gwaith wedi dechrau o godi safle Maes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Pen-y-bont ar Ogwr, Taf ac Elái ar dir Campws Pencoed, Coleg Pen-y-bont.
Cafodd y dywarchen gyntaf ei thorri ddydd Llun, ac fe fydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal yno rhwng 29 Mai a 3 Mehefin.
Dyma fydd y tro cyntaf i'r Eisteddfod ymweld â'r ardal ers 1991, pan gafodd ei chynnal yn Nhonyrefail.
Bydd yn cymryd pum wythnos i gael y safle yn barod ar gyfer y 90,000 o ymwelwyr meddai'r trefnwyr.
Mae criw o wirfoddolwyr lleol wedi bod yn codi ymwybyddiaeth ac arian ar gyfer yr Eisteddfod ers dwy flynedd.

'Cefnogaeth'
Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith lleol ydi Tegwen Ellis, ac fe ddywedodd: "Mae'r gefnogaeth gan y bobl leol wedi bod yn wych wrth iddynt drefnu gweithgareddau amrywiol i godi arian a chodi ymwybyddiaeth yn eu cymunedau.
"Mae nifer o'r bobl leol yn cofio Eisteddfod Maesteg ym 1979, ac maen nhw ymysg llawer iawn o drigolion yr ardal sy'n edrych ymlaen at groesawu plant a phobl Cymru nol i'r dalgylch."
Dywedodd Aled Siôn, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd: "Mae'n amser cyffrous iawn pan fydd y gwaith yn dechrau ar y Maes, a'r criw adeiladu yn dechrau ar eu gwaith.
"Mae'n anhygoel beth y gallan nhw ei gyflawni mewn pum wythnos yn trawsnewid cae gwyrdd yn safle gweithredol yn barod i groesawu ieuenctid a theuluoedd o bob cwr o Gymru."